Amdanom ni

Arbenigedd Eang
Mae gan a-pedwar cyf. arbenigedd eang mewn amryw o feysydd ac adlewyrchir hynny yn ein cwsmeriaid selog - yn eu plith Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Gofal Cymru, y Gronfa Loteri Fawr, Cyngor Llyfrau Cymru, Arolygiaeth Safonau Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, amryfal gwmnïau busnes a chyrff gwirfoddol ac amryw o Gynghorau Sir Cymru - o Gaerfyrddin i’r Fflint ac o Wynedd i Gaerffili.

Cyfeillgar a Phroffesiynol
Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol, ac fel tîm, rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein holl gyfieithiadau, a'n gallu i weithio dan bwysau o fewn amserlen gaeth, a chynhyrchu gwaith graenus o'r safon orau.

Bydd Uwch Gyfieithydd yn gyfrifol am  gysylltu’n bersonol gyda chleientiaid unigol er mwyn cwrdd ag unrhyw ofynion cyfieithu.

Wrth gyfieithu gwaith rydym yn rhoi sylw penodol i arddull y darn – o’r byr a bachog i ddogfennau mwy swmpus a ffurfiol - er mwyn sicrhau ei fod yn darllen yn ystwyth, fel darn gwreiddiol yn hytrach na chyfieithiad. Agwedd bwysig arall y byddwn yn ei chadw mewn cof bob amser yw'r gynulleidfa darged, er mwyn sicrhau bod y cywair yn addas a'r darn yn taro deuddeg.

Parchu Gofynion y Cleient
Defnyddiwn y termau cydnabyddedig diweddaraf bob amser, gan gynnwys TermCymru, sef cronfa ddata ar-lein Llywodraeth Cynulliad Cymru. Byddwn hefyd yn parchu unrhyw ofynion gan y cleient o safbwynt defnyddio geirfa neu dermau neilltuol a sicrhau cysondeb llwyr ym mhob darn o waith.
Mae gennym yswiriant indemniad proffesiynol ac rydym hefyd wedi ein cynnwys ar y Gofrestr Gwarchod Data.

 

 

| Mwy